2. Bydd llawer o'r rhai sy'n cysgu yn llwch y ddaear yn deffro, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i waradwydd a dirmyg tragwyddol.
3. Disgleiria'r deallus fel y ffurfafen, a'r rhai sydd wedi troi llawer at gyfiawnder, byddant fel y sêr yn oes oesoedd.
4. Ond amdanat ti, Daniel, cadw'r geiriau'n ddiogel, a selia'r llyfr hyd amser y diwedd. Bydd llawer yn rhedeg yma ac acw, a bydd gofid yn cynyddu.”
5. Yna edrychais i, Daniel, a gweld dau arall yn sefyll un bob ochr i'r afon.
6. A gofynnodd y naill i'r llall, sef y gŵr mewn gwisg liain a oedd uwchlaw dyfroedd yr afon, “Pa bryd y bydd terfyn ar y rhyfeddodau?”
7. Sylwais ar y gŵr mewn gwisg liain a oedd ar lan bellaf yr afon; cododd ei ddwy law i'r nef a thyngu, “Cyn wired â bod y Tragwyddol yn fyw, am gyfnod a chyfnodau a hanner cyfnod y bydd hyn, a daw'r cwbl i ben pan roddir terfyn ar ddiddymu nerth y bobl sanctaidd.”
8. Yr oeddwn yn clywed heb ddeall, a gofynnais, “F'arglwydd, beth a ddaw o hyn?”
9. Dywedodd yntau, “Dos, Daniel, oherwydd y mae'r geiriau wedi eu cadw'n ddiogel a'u selio hyd amser y diwedd.
10. Bydd llawer yn ymlanhau ac yn eu cannu eu hunain ac yn cael eu puro; bydd yr holl rai drygionus yn gwneud drwg heb ddeall, heb neb ond y deallus yn amgyffred.
11. Ac o'r amser y diddymir yr aberth beunyddiol, a gosod yno y ffieiddbeth diffeithiol, bydd mil dau gant naw deg o ddyddiau.
12. Gwyn ei fyd yr un fydd yn disgwyl ac yn cyrraedd y mil tri chant tri deg a phump o ddyddiau.
13. Dos dithau ymlaen hyd y diwedd; yna cei orffwys, a sefyll i dderbyn dy ran yn niwedd y dyddiau.”