41. Daw i'r wlad hyfryd, a chaiff llawer eu difa; ond bydd rhai, fel Edom a Moab a gweddill Ammon, yn dianc o'i afael.
42. Ymleda'i awdurdod dros y gwledydd, ac ni chaiff yr Aifft ei harbed.
43. Daw trysorau aur ac arian a holl bethau dymunol yr Aifft i'w feddiant, a bydd y Libyaid a'r Ethiopiaid yn ei ddilyn.
44. Ond daw newyddion o'r dwyrain a'r gogledd a'i gynhyrfu, ac fe â allan mewn cynddaredd i ladd a dinistrio llawer.
45. Gesyd bebyll ei bencadlys rhwng y môr a'r mynydd sanctaidd godidog; ond daw ei yrfa i ben heb neb yn ei helpu.