Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 11:28-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Bydd brenin y gogledd yn dychwelyd i'w wlad ei hun a chanddo lawer o ysbail, ond â'i galon yn erbyn y cyfamod sanctaidd; ar ôl gweithredu, â'n ôl i'w wlad ei hun.

29. “Ar amser penodedig fe ddaw'n ôl eilwaith i'r de, ond ni fydd y tro hwn fel y tro cyntaf.

30. Daw llongau Chittim yn ei erbyn, a bydd yntau'n digalonni ac yn troi'n ôl; unwaith eto fe ddengys ei lid yn erbyn y cyfamod sanctaidd, a rhoi sylw i bawb sy'n ei dorri.

31. Daw rhai o'i filwyr a halogi'r cysegr a'r amddiffynfa, a dileu'r offrwm beunyddiol a gosod yno y ffieiddbeth diffeithiol.

32. Trwy ei weniaith fe ddena'r rhai sy'n torri'r cyfamod, ond bydd y bobl sy'n adnabod eu Duw yn gweithredu'n gadarn.

33. Bydd y deallus ymysg y bobl yn dysgu'r lliaws, ond am ryw hyd byddant yn syrthio trwy gleddyf a thân, trwy gaethiwed ac anrhaith.

34. Pan syrthiant, cânt rywfaint o gymorth, er y bydd llawer yn ymuno â hwy trwy weniaith.

35. Bydd rhai o'r deallus yn syrthio er mwyn cael eu puro a'u glanhau a'u cannu ar gyfer amser y diwedd, oherwydd y mae'r amser penodedig yn dod.

36. Bydd y brenin yn gwneud fel y myn, yn ymorchestu ac yn ymddyrchafu uwchlaw pob duw, ac yn cablu Duw y duwiau. Bydd yn llwyddo hyd ddiwedd y llid, oherwydd yr hyn a ordeiniwyd a fydd.

37. Nid ystyria dduwiau ei hynafiaid na'r duw a hoffir gan wragedd; nid ystyria'r un duw, ond ei osod ei hun yn uwch na hwy i gyd.

38. Yn eu lle fe anrhydedda dduw'r caerau; ag aur ac arian a meini gwerthfawr a phethau dymunol bydd yn anrhydeddu duw oedd yn ddieithr i'w hynafiaid.

39. Bydd yn gorfodi pobl duw dieithr i amddiffyn ei gaerau, yn rhoi anrhydedd i'r rhai sy'n ei gydnabod, yn gwneud iddynt lywodraethu dros y lliaws, ac yn rhannu tir iddynt am bris.

40. “Yn amser y diwedd daw brenin y de allan i ymladd, a daw brenin y gogledd fel corwynt yn ei erbyn â cherbydau a marchogion a llawer o longau; bydd hwnnw'n ymosod ar y gwledydd ac yn eu gorlifo.

41. Daw i'r wlad hyfryd, a chaiff llawer eu difa; ond bydd rhai, fel Edom a Moab a gweddill Ammon, yn dianc o'i afael.

42. Ymleda'i awdurdod dros y gwledydd, ac ni chaiff yr Aifft ei harbed.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 11