Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 11:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Bwriad drwg fydd gan y ddau frenin yma, ac er eu bod wrth yr un bwrdd, byddant yn dweud celwydd wrth ei gilydd; ond ni lwyddant, oherwydd ar yr amser penodedig fe ddaw'r diwedd.

28. Bydd brenin y gogledd yn dychwelyd i'w wlad ei hun a chanddo lawer o ysbail, ond â'i galon yn erbyn y cyfamod sanctaidd; ar ôl gweithredu, â'n ôl i'w wlad ei hun.

29. “Ar amser penodedig fe ddaw'n ôl eilwaith i'r de, ond ni fydd y tro hwn fel y tro cyntaf.

30. Daw llongau Chittim yn ei erbyn, a bydd yntau'n digalonni ac yn troi'n ôl; unwaith eto fe ddengys ei lid yn erbyn y cyfamod sanctaidd, a rhoi sylw i bawb sy'n ei dorri.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 11