16. Bydd ei wrthwynebydd yn gwneud fel y myn, ac ni saif neb o'i flaen; bydd yn ymsefydlu yn y wlad hyfryd, a fydd yn llwyr dan ei awdurdod.
17. Ei fwriad fydd dod â holl rym ei deyrnas, ac yna fe wna gytundeb ag ef a rhoi iddo ferch yn briod er mwyn distrywio'r deyrnas; ond ni fydd hynny'n tycio nac yn troi'n fantais iddo.
18. Yna fe dry at yr ynysoedd, ac ennill llawer ohonynt, ond fe rydd pennaeth estron derfyn ar ei ryfyg, a throi ei ryfyg yn ôl arno ef ei hun.
19. Yna fe gilia'n ôl at amddiffynfeydd ei wlad; ond methu a wna, a syrthio a diflannu o'r golwg.
20. Yn ei le daw un a fydd yn anfon allan swyddog i drethu golud y deyrnas; mewn ychydig ddyddiau fe'i torrir yntau i lawr, ond nid mewn cythrwfl nac mewn brwydr.
21. “Yn ei le ef cyfyd un dirmygus, ond ni roddir iddo ogoniant brenhinol. Yn ddirybudd y daw, a chymryd y frenhiniaeth trwy weniaith.
22. Ysgubir ymaith fyddinoedd nerthol o'i flaen, a'u dryllio hwy a thywysog y cyfamod hefyd.
23. Er iddo wneud cytundeb, bydd yn twyllo, ac yn para i gryfhau, er lleied yw ei genedl.
24. Heb rybudd meddianna rannau ffrwythlonaf y dalaith, a gwneud yr hyn na wnaeth yr un o'i hynafiaid, sef rhannu eu hysglyfaeth a'u hysbail a'u golud, a chynllwyn yn erbyn dinasoedd caerog, ond am gyfnod yn unig.
25. “Mewn nerth a balchder fe ymesyd â byddin fawr ar frenin y de, a daw yntau i ryfel â byddin fawr a chref iawn; ond ni fedr barhau, am fod rhai yn cynllwyn yn ei erbyn.
26. Y rhai sy'n bwyta wrth ei fwrdd a fydd yn ei ddifetha; ysgubir ymaith ei fyddin, a syrthia llawer yn gelain.
27. Bwriad drwg fydd gan y ddau frenin yma, ac er eu bod wrth yr un bwrdd, byddant yn dweud celwydd wrth ei gilydd; ond ni lwyddant, oherwydd ar yr amser penodedig fe ddaw'r diwedd.
28. Bydd brenin y gogledd yn dychwelyd i'w wlad ei hun a chanddo lawer o ysbail, ond â'i galon yn erbyn y cyfamod sanctaidd; ar ôl gweithredu, â'n ôl i'w wlad ei hun.