5. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnochyn enw iyrchod ac ewigod y maes.Peidiwch â deffro na tharfu f'anwylydnes y bydd hi'n dymuno.
6. Beth yw hyn sy'n dod o'r anialwch,fel colofn o fwgyn llawn arogl o fyrr a thus,ac o bowdrau marsiandïwr?
7. Dyma gerbyd Solomon;o'i gylch y mae trigain o ddynion cryfion,y rhai cryfaf yn Israel,
8. pob un yn cario cleddyf,ac wedi ei hyfforddi i ryfela,pob un â'i gleddyf ar ei glun,yn barod ar gyfer dychryn yn y nos.
9. Gwnaeth y Brenin Solomon iddo'i hungadair gludo o goed Lebanon,
10. gyda'i pholion o arian,ei chefn o aur, ei sedd o borffor,a'r tu mewn iddi yn lledro waith merched Jerwsalem.
11. Dewch allan, ferched Seion,edrychwch ar y Brenin Solomonyn gwisgo'r goron a roddodd ei fam iddoar ddydd ei briodas,y dydd pan oedd yn llawen.