21. Codwch eich calon, fy mhlant. Llefwch ar Dduw, ac fe'ch gwared o ormes ac o ddwylo'ch gelynion.
22. Oherwydd ar y Duw tragwyddol y seiliais fy ngobaith am eich gwaredigaeth, a daeth i mi lawenydd oddi wrth yr Un Sanctaidd ar gyfrif y drugaredd a ddaw yn fuan atoch oddi wrth eich gwaredwr tragwyddol.
23. Anfonais chwi allan â thristwch a dagrau, ond fe rydd Duw chwi'n ôl i mi â sirioldeb a llawenydd am byth.
24. Fel y mae cymdogion Seion yn awr wedi gweld eich caethiwed, yn fuan fe gânt weld y waredigaeth a ddaw arnoch oddi wrth eich Duw, y Duw tragwyddol, â gogoniant mawr ac ysblander.
25. Fy mhlant, dioddefwch yn amyneddgar y dicter a ddaeth arnoch oddi wrth Dduw. Y mae dy elyn wedi dy erlid, ond yn fuan cei weld ei ddinistr ef, a gosod dy droed ar ei wddf.
26. Y mae fy mhlant anwes wedi rhodio ar hyd llwybrau garw; fe'u cipiwyd i ffwrdd fel praidd a aeth yn ysglyfaeth gelynion.
27. Codwch eich calon, fy mhlant. Llefwch ar Dduw, oherwydd bydd yr Un a ddug y pethau hyn arnoch yn cofio amdanoch.
28. Fel y bu eich bryd ar fynd ar gyfeiliorn oddi wrth Dduw, trowch yr eich ôl a'i geisio ef ddengwaith mwy.
29. Bydd yr Un a ddug y drygau hyn arnoch yn dwyn ichwi lawenydd tragwyddol ynghyd â'ch iachawdwriaeth.
30. Cod dy galon, Jerwsalem. Bydd yr Un a'th enwodd di yn dy gysuro.
31. Gwae y rhai a wnaeth niwed iti a llawenhau yn dy gwymp.
32. Gwae'r dinasoedd lle bu dy blant yn gaethweision; gwae'r ddinas a dderbyniodd dy epil.
33. Fel y bu lawen ganddi dy gwymp di, a hyfryd ganddi dy anffawd, felly y bydd yn athrist ganddi ei chyflwr diffaith ei hun.
34. Torraf ymaith y tyrfaoedd y gorfoleddai ynddynt, a throi ei balchder yn dristwch.