Hen Destament

Testament Newydd

Baruch 4:2-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Dychwel, Jacob, ac ymafael ynddi. Rhodia i gyfeiriad ei hysblander yn llygad ei goleuni hi.

3. Paid â rhoi dy ogoniant i arall, na'th freintiau i genedl estron.

4. Gwyn ein byd, Israel, am ein bod yn gwybod y pethau sydd wrth fodd Duw.

5. Codwch eich calon, fy mhobl, chwi sy'n cadw coffadwriaeth Israel.

6. Nid i'ch difetha y gwerthwyd chwi i'r cenhedloedd, ond am i chwi gynhyrfu dicter Duw y'ch traddodwyd i ddwylo eich gelynion.

7. Cythruddo'ch Creawdwr a wnaethoch trwy offrymu i gythreuliaid ac nid i Dduw.

8. Anghofiasoch y Duw tragwyddol a'ch maethodd, a thristáu Jerwsalem, a'ch meithrinodd.

Darllenwch bennod gyflawn Baruch 4