18. Fe'ch gwaredir o ddwylo eich gelynion gan yr Un a ddug y drygau hyn arnoch.
19. Ewch ymaith, fy mhlant, ewch ymaith, oherwydd gadawyd fi'n amddifad.
20. Diosgais wisg tangnefedd, a rhoi amdanaf sachliain ymbiliwr. Galwaf ar yr Arglwydd tragwyddol tra byddaf byw.
21. Codwch eich calon, fy mhlant. Llefwch ar Dduw, ac fe'ch gwared o ormes ac o ddwylo'ch gelynion.
22. Oherwydd ar y Duw tragwyddol y seiliais fy ngobaith am eich gwaredigaeth, a daeth i mi lawenydd oddi wrth yr Un Sanctaidd ar gyfrif y drugaredd a ddaw yn fuan atoch oddi wrth eich gwaredwr tragwyddol.
23. Anfonais chwi allan â thristwch a dagrau, ond fe rydd Duw chwi'n ôl i mi â sirioldeb a llawenydd am byth.
24. Fel y mae cymdogion Seion yn awr wedi gweld eich caethiwed, yn fuan fe gânt weld y waredigaeth a ddaw arnoch oddi wrth eich Duw, y Duw tragwyddol, â gogoniant mawr ac ysblander.
25. Fy mhlant, dioddefwch yn amyneddgar y dicter a ddaeth arnoch oddi wrth Dduw. Y mae dy elyn wedi dy erlid, ond yn fuan cei weld ei ddinistr ef, a gosod dy droed ar ei wddf.
26. Y mae fy mhlant anwes wedi rhodio ar hyd llwybrau garw; fe'u cipiwyd i ffwrdd fel praidd a aeth yn ysglyfaeth gelynion.
27. Codwch eich calon, fy mhlant. Llefwch ar Dduw, oherwydd bydd yr Un a ddug y pethau hyn arnoch yn cofio amdanoch.
28. Fel y bu eich bryd ar fynd ar gyfeiliorn oddi wrth Dduw, trowch yr eich ôl a'i geisio ef ddengwaith mwy.