Hen Destament

Testament Newydd

Baruch 4:13-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ni ddysgasant ei ddeddfau, na rhodio yn ffyrdd ei orchmynion, na throedio llwybrau dysg yn unol â'i gyfiawnder ef.”

14. Dewch, gymdogion Seion. Cofiwch y caethiwed a ddug y Duw tragwyddol ar fy meibion a'm merched.

15. Oherwydd fe gododd yn eu herbyn genedl o wlad bell, cenedl ddidostur ac anghyfiaith, heb na pharch at yr hen na thosturi at blant.

16. Dygasant ymaith blant annwyl y weddw, a'i gadael hi'n unig, yn amddifad o'i merched.

17. A myfi, pa gymorth a allaf ei roi i chwi?

18. Fe'ch gwaredir o ddwylo eich gelynion gan yr Un a ddug y drygau hyn arnoch.

19. Ewch ymaith, fy mhlant, ewch ymaith, oherwydd gadawyd fi'n amddifad.

20. Diosgais wisg tangnefedd, a rhoi amdanaf sachliain ymbiliwr. Galwaf ar yr Arglwydd tragwyddol tra byddaf byw.

21. Codwch eich calon, fy mhlant. Llefwch ar Dduw, ac fe'ch gwared o ormes ac o ddwylo'ch gelynion.

22. Oherwydd ar y Duw tragwyddol y seiliais fy ngobaith am eich gwaredigaeth, a daeth i mi lawenydd oddi wrth yr Un Sanctaidd ar gyfrif y drugaredd a ddaw yn fuan atoch oddi wrth eich gwaredwr tragwyddol.

23. Anfonais chwi allan â thristwch a dagrau, ond fe rydd Duw chwi'n ôl i mi â sirioldeb a llawenydd am byth.

24. Fel y mae cymdogion Seion yn awr wedi gweld eich caethiwed, yn fuan fe gânt weld y waredigaeth a ddaw arnoch oddi wrth eich Duw, y Duw tragwyddol, â gogoniant mawr ac ysblander.

25. Fy mhlant, dioddefwch yn amyneddgar y dicter a ddaeth arnoch oddi wrth Dduw. Y mae dy elyn wedi dy erlid, ond yn fuan cei weld ei ddinistr ef, a gosod dy droed ar ei wddf.

Darllenwch bennod gyflawn Baruch 4