Hen Destament

Testament Newydd

Baruch 3:22-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Ni chlywyd sôn amdani yng Nghanaan, ac ni welwyd mohoni yn Teman.

23. Nid yw plant Hagar chwaith, sy'n chwilio am ddeall ar y ddaear, na masnachwyr Merran a Teman, na dyfeiswyr chwedlau na chwilotwyr am ddeall, wedi dysgu ffordd doethineb na chofio'i llwybrau hi.

24. O Israel, mor fawr yw tŷ Dduw, mor helaeth y fangre a fedd.

25. Mawr ydyw, a diderfyn, uchel a difesur.

26. Yno y ganed y cewri enwog gynt, mawr o gorff a medrus mewn rhyfel.

27. Ond nid y rhain a ddewisodd Duw, ac nid iddynt hwy y datguddiodd ffordd gwybodaeth.

28. Darfu amdanynt, felly, am nad oedd ganddynt ddeall; darfu amdanynt oherwydd eu diffyg synnwyr.

29. Pwy a ddringodd i'r nefoedd i gael gafael ynddi a'i dwyn i lawr o'r cymylau?

30. Pwy a groesodd y môr i gael hyd iddi, a'i phrynu ag aur pur?

31. Nid oes neb sy'n gwybod ei ffordd nac yn adnabod ei llwybr.

32. Ond yr Un sy'n gwybod pob peth, y mae ef yn ei hadnabod hi; darganfu ef hi trwy ei ddeall. Ef a sefydlodd y ddaear am byth, a'i llenwi â phedwarcarnolion.

33. Ef sy'n anfon allan y goleuni, ac y mae'n mynd; yn galw arno, ac y mae'n ufuddhau iddo mewn dychryn.

34. Llewyrchodd y sêr yn llawen yn eu gwyliadwriaethau; a phan alwodd ef arnynt, dywedasant, “Dyma ni”, a llewyrchu'n llawen i'w creawdwr.

Darllenwch bennod gyflawn Baruch 3