Hen Destament

Testament Newydd

Baruch 2:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ond ni wrandawsom ar ei lais ef, i fyw yn ôl y gorchmynion a roes yr Arglwydd ger ein bron.

11. “Ac yn awr, Arglwydd Dduw Israel, a ddygodd dy bobl allan o'r Aifft â llaw gadarn, ag arwyddion a rhyfeddodau a gallu mawr, ac â braich ddyrchafedig, ac a wnaeth enw mawr i ti dy hun, hyd y dydd hwn—

12. O Arglwydd ein Duw, pechasom a buom annuwiol ac anghyfiawn, yn groes i'th holl orchmynion di.

13. Troer dy lid oddi wrthym, oherwydd fe'n gadawyd yn ychydig ymysg y cenhedloedd lle y gwasgeraist ni.

Darllenwch bennod gyflawn Baruch 2