Hen Destament

Testament Newydd

Baruch 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Am hynny cadarnhaodd yr Arglwydd ei air, a lefarodd yn ein herbyn ac yn erbyn ein barnwyr a farnodd Israel, ac yn erbyn ein brenhinoedd a'n llywodraethwyr, ac yn erbyn pobl Israel a Jwda.

2. Ni wnaed yn unlle dan y nefoedd y fath bethau ag a wnaeth ef yn Jerwsalem, yn unol â'r geiriau a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses,

3. y byddem yn bwyta cnawd ein plant, un ei fab, ac un arall ei ferch.

4. Gosododd yr Arglwydd ein pobl dan lywodraeth yr holl deyrnasoedd sydd o'n hamgylch, i fod yn gyff gwawd, a'u gwlad yn anghyfannedd yng ngolwg yr holl bobloedd o'n hamgylch, lle y gwasgarodd yr Arglwydd hwy.

Darllenwch bennod gyflawn Baruch 2