18. a buom yn anufudd iddo; ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ôl y gorchmynion a osododd yr Arglwydd ger ein bron.
19. O'r dydd y dygodd yr Arglwydd ein hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw, buom yn anufudd i'r Arglwydd ein Duw ac yn esgeulus, heb wrando ar ei lais.
20. A glynodd wrthym hyd heddiw y drygau a'r felltith y gorchmynnodd yr Arglwydd i'w was Moses eu cyhoeddi ar y dydd y dygodd ein hynafiaid allan o'r Aifft er mwyn rhoi i ni wlad yn llifeirio o laeth a mêl.
21. Ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, a glywir yn holl eiriau'r proffwydi a anfonodd atom;
22. ond dilyn a wnaethom bob un ei ffordd ei hun, yn ôl mympwy ei galon ddrygionus, a gwasanaethu duwiau eraill, a gwneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ein Duw.’ ”