13. Gweddïwch hefyd ar yr Arglwydd ein Duw drosom ni, oherwydd i ni bechu yn ei erbyn; ac nid yw llid yr Arglwydd a'i ddicter wedi troi ymaith oddi wrthym hyd y dydd hwn.
14. “Yr ydych i ddarllen y llyfr hwn a anfonwn atoch, a gwneud eich cyffes yn nhŷ'r Arglwydd ar ddydd gŵyl ac ar ddyddiau penodedig,
15. a dweud: ‘I'r Arglwydd ein Duw y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wyneb hyd y dydd hwn, i bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,
16. i'n brenhinoedd a'n llywodraethwyr a'n hoffeiriaid a'n proffwydi, ac i'n hynafiaid.
17. Oherwydd pechasom yn erbyn yr Arglwydd,
18. a buom yn anufudd iddo; ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ôl y gorchmynion a osododd yr Arglwydd ger ein bron.
19. O'r dydd y dygodd yr Arglwydd ein hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw, buom yn anufudd i'r Arglwydd ein Duw ac yn esgeulus, heb wrando ar ei lais.
20. A glynodd wrthym hyd heddiw y drygau a'r felltith y gorchmynnodd yr Arglwydd i'w was Moses eu cyhoeddi ar y dydd y dygodd ein hynafiaid allan o'r Aifft er mwyn rhoi i ni wlad yn llifeirio o laeth a mêl.