1. Dyma eiriau'r llyfr a ysgrifennodd Baruch fab Nereia, fab Maaseia, fab Sedeceia, fab Asadeia, fab Chelcias, ym Mabilon
2. yn y bumed flwyddyn, a'r seithfed dydd o'r mis, yr adeg y goresgynnodd y Caldeaid Jerwsalem a'i llosgi.
3. Darllenodd Baruch eiriau'r llyfr hwn yng nghlyw Jechoneia, mab Joachim brenin Jwda, ac yng nghlyw pawb o'r bobl a ddaeth i'w glywed:
4. y rhai mawr, y rhai o linach frenhinol, yr henuriaid, a phawb o'r bobl, o'r lleiaf hyd y mwyaf—pawb yn wir oedd yn byw ar lan Afon Swd ym Mabilon.
5. Mewn galar ac ympryd, ymroesant i weddïo gerbron yr Arglwydd;
6. casglasant arian hefyd, pob un yn ôl ei allu,
7. a'i anfon i Jerwsalem at yr offeiriad Joachim fab Chelcias, fab Salum, ac at yr offeiriaid eraill, ac at yr holl bobl a gafwyd gydag ef yn Jerwsalem.
8. Dyma'r pryd y cymerodd Baruch lestri tŷ'r Arglwydd, a oedd wedi eu dwyn o'r deml, i'w dychwelyd i wlad Jwda, ar y degfed dydd o fis Sifan.
9. Y rhain oedd y llestri arian yr oedd Sedeceia fab Joseia brenin Jwda wedi eu gwneud ar ôl i Nebuchadnesar brenin Babilon gaethgludo Jechoneia, a'r tywysogion a'r carcharorion a'r mawrion a phobl y wlad, o Jerwsalem, a'u dwyn i Fabilon.
10. Dywedasant: “Dyma ni'n anfon atoch arian. Prynwch â'r arian boethoffrymau ac aberthau dros bechod, ac arogldarth; darparwch offrwm o rawn a'i offrymu ar allor yr Arglwydd ein Duw ni.