Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 6:29-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. yna gofynnodd pawb i'w gilydd, “Pwy a wnaeth hyn?” Ar ôl chwilio a holi, dywedasant, “Gideon fab Joas sydd wedi gwneud hyn.”

30. Yna dywedodd pobl y ddinas wrth Joas, “Tyrd â'th fab allan iddo gael marw, oherwydd y mae wedi bwrw i lawr allor Baal a thorri'r pren Asera oedd yn ei hymyl.”

31. Ond meddai Joas wrth bawb oedd yn sefyll o'i gwmpas, “A ydych chwi am ddadlau achos Baal? A ydych chwi am ei achub ef? Rhoir pwy bynnag sy'n dadlau drosto i farwolaeth erbyn y bore. Os yw'n dduw, dadleued drosto'i hun am i rywun fwrw ei allor i lawr.”

32. A'r diwrnod hwnnw galwyd Gideon yn Jerwbbaal—hynny yw, “Bydded i Baal ddadlau ag ef”—am iddo fwrw ei allor i lawr.

33. Daeth yr holl Midianiaid a'r Amaleciaid a'r dwyreinwyr ynghyd, a chroesi a gwersyllu yn nyffryn Jesreel.

34. Disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Gideon; chwythodd yntau'r utgorn a galw ar yr Abiesriaid i'w ddilyn.

35. Anfonodd negeswyr drwy Manasse gyfan a galw arnynt hwythau hefyd i'w ddilyn. Yna anfonodd negeswyr drwy Aser, Sabulon a Nafftali, a daethant hwythau i'w cyfarfod.

36. Dywedodd Gideon wrth Dduw, “Os wyt am waredu Israel drwy fy llaw i, fel yr addewaist,

37. dyma fi'n gosod cnu o wlân ar y llawr dyrnu; os bydd gwlith ar y cnu yn unig, a'r llawr i gyd yn sych, yna byddaf yn gwybod y gwaredi Israel drwof fi, fel y dywedaist.”

38. Felly y bu. Pan gododd fore trannoeth a hel y cnu at ei gilydd, gwasgodd ddigon o wlith ohono i lenwi ffiol â'r dŵr.

39. Ond meddai Gideon wrth Dduw, “Paid â digio wrthyf os gofynnaf un peth arall; yr wyf am wneud un prawf arall â'r cnu: bydded y cnu'n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd.”

40. Gwnaeth Duw hynny y noson honno, y cnu'n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 6