Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 5:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Am ddŵr y gofynnodd ef, estynnodd hithau laeth;mewn llestr pendefigaidd cynigiodd iddo enwyn.

26. Estynnodd ei llaw at yr hoelen,a'i deheulaw at ordd y llafurwyr;yna fe bwyodd Sisera a dryllio'i ben,fe'i trawodd a thrywanu ei arlais.

27. Rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd, gorweddodd;rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd;lle crymodd, yno fe syrthiodd yn gelain.

28. “Edrychai mam Sisera trwy'r ffenestra llefain trwy'r dellt:‘Pam y mae ei gerbyd yn oedi?Pam y mae twrf ei gerbydau mor hir yn dod?’

29. Atebodd y ddoethaf o'i thywysogesau,ie, rhoes hithau'r ateb iddi ei hun,

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 5