Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 5:24-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Bendigedig goruwch gwragedd fyddo Jael, gwraig Heber y Cenead;bendithier hi uwch gwragedd y babell.

25. Am ddŵr y gofynnodd ef, estynnodd hithau laeth;mewn llestr pendefigaidd cynigiodd iddo enwyn.

26. Estynnodd ei llaw at yr hoelen,a'i deheulaw at ordd y llafurwyr;yna fe bwyodd Sisera a dryllio'i ben,fe'i trawodd a thrywanu ei arlais.

27. Rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd, gorweddodd;rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd;lle crymodd, yno fe syrthiodd yn gelain.

28. “Edrychai mam Sisera trwy'r ffenestra llefain trwy'r dellt:‘Pam y mae ei gerbyd yn oedi?Pam y mae twrf ei gerbydau mor hir yn dod?’

29. Atebodd y ddoethaf o'i thywysogesau,ie, rhoes hithau'r ateb iddi ei hun,

30. ‘Onid ydynt yn cael ysbail ac yn ei rannu—llances neu ddwy i bob un o'r dynion,ysbail o frethyn lliw i Sisera, ie, ysbail o frethyn lliw,darn neu ddau o frodwaith am yddfau'r ysbeilwyr?’

31. “Felly bydded i'th holl elynion ddarfod, O ARGLWYDD,ond bydded y rhai sy'n dy garu fel yr haul yn codi yn ei rym.”Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 5