Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 5:20-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. O'r nef ymladdodd y sêr,ymladd o'u cylchoedd yn erbyn Sisera.

21. ‘Ysgubodd nant Cison hwy ymaith,cododd llif nant Cison yn eu herbyn.Fy enaid, cerdda ymlaen mewn nerth.

22. Yna'r oedd carnau'r ceffylau'n diasbedaingan garlam gwyllt eu meirch cryfion.’

23. “ ‘Melltigwch Meros,’ medd angel yr ARGLWYDD,‘melltigwch yn llwyr ei thrigolion,am na ddaethant i gynorthwyo'r ARGLWYDD,i gynorthwyo'r ARGLWYDD gyda'r gwroniaid.’

24. Bendigedig goruwch gwragedd fyddo Jael, gwraig Heber y Cenead;bendithier hi uwch gwragedd y babell.

25. Am ddŵr y gofynnodd ef, estynnodd hithau laeth;mewn llestr pendefigaidd cynigiodd iddo enwyn.

26. Estynnodd ei llaw at yr hoelen,a'i deheulaw at ordd y llafurwyr;yna fe bwyodd Sisera a dryllio'i ben,fe'i trawodd a thrywanu ei arlais.

27. Rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd, gorweddodd;rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd;lle crymodd, yno fe syrthiodd yn gelain.

28. “Edrychai mam Sisera trwy'r ffenestra llefain trwy'r dellt:‘Pam y mae ei gerbyd yn oedi?Pam y mae twrf ei gerbydau mor hir yn dod?’

29. Atebodd y ddoethaf o'i thywysogesau,ie, rhoes hithau'r ateb iddi ei hun,

30. ‘Onid ydynt yn cael ysbail ac yn ei rannu—llances neu ddwy i bob un o'r dynion,ysbail o frethyn lliw i Sisera, ie, ysbail o frethyn lliw,darn neu ddau o frodwaith am yddfau'r ysbeilwyr?’

31. “Felly bydded i'th holl elynion ddarfod, O ARGLWYDD,ond bydded y rhai sy'n dy garu fel yr haul yn codi yn ei rym.”Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 5