Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 5:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “Deffro, deffro, Debora!Deffro, deffro, lleisia gân!Cyfod, Barac! Cymer lu o garcharorion, ti fab Abinoam!

13. “Yna fe aeth y gweddill i lawr at y pendefigion,do, fe aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr ymysg y cedyrn.

14. Daeth rhai o Effraim a lledu drwy'r dyffryn,a gweiddi, ‘Ar dy ôl di, Benjamin, gyda'th geraint!’Aeth llywiawdwyr i lawr o Machir;ac o Sabulon, rhai'n cario gwialen swyddog.

15. Yr oedd tywysogion Issachar gyda Debora;bu Issachar yn ffyddlon i Barac,yn rhuthro i'r dyffryn ar ei ôl.Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

16. Pam yr arhosaist rhwng y corlannaui wrando ar chwiban bugeiliaid?Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 5