Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 5:10-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. “Ystyriwch, chwi sy'n marchogaeth asynnod melyngoch,chwi sy'n eistedd ar gyfrwyau, chwi sy'n cerdded y ffordd.

11. Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau,ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD,buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel,pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.

12. “Deffro, deffro, Debora!Deffro, deffro, lleisia gân!Cyfod, Barac! Cymer lu o garcharorion, ti fab Abinoam!

13. “Yna fe aeth y gweddill i lawr at y pendefigion,do, fe aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr ymysg y cedyrn.

14. Daeth rhai o Effraim a lledu drwy'r dyffryn,a gweiddi, ‘Ar dy ôl di, Benjamin, gyda'th geraint!’Aeth llywiawdwyr i lawr o Machir;ac o Sabulon, rhai'n cario gwialen swyddog.

15. Yr oedd tywysogion Issachar gyda Debora;bu Issachar yn ffyddlon i Barac,yn rhuthro i'r dyffryn ar ei ôl.Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

16. Pam yr arhosaist rhwng y corlannaui wrando ar chwiban bugeiliaid?Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

17. Arhosodd Gilead y tu hwnt i'r Iorddonen;a pham yr oedd Dan yn oedi ger y llongau?Arhosodd Aser ar lan y môr,ac oedi gerllaw ei gilfachau.

18. Pobl a fentrodd eu heinioes hyd angau oedd Sabulona Nafftali hefyd, ar uchelfannau maes y gad.

19. “Daeth brenhinoedd ac ymladd;fe ymladdodd brenhinoedd Canaanyn Taanach ger dyfroedd Megido,ond heb gymryd ysbail o arian.

20. O'r nef ymladdodd y sêr,ymladd o'u cylchoedd yn erbyn Sisera.

21. ‘Ysgubodd nant Cison hwy ymaith,cododd llif nant Cison yn eu herbyn.Fy enaid, cerdda ymlaen mewn nerth.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 5