Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y diwrnod hwnnw canodd Debora a Barac fab Abinoam fel hyn:

2. “Am i'r arweinwyr roi arweiniad yn Israel,am i'r bobl ymroi o'u gwirfodd,bendithiwch yr ARGLWYDD.

3. Clywch, frenhinoedd! Gwrandewch, dywysogion!Canaf finnau i'r ARGLWYDD,a moliannu ARGLWYDD Dduw Israel.

4. “O ARGLWYDD, pan aethost allan o Seir,ac ymdeithio o Faes Edom,fe grynodd y ddaear, glawiodd y nefoedd,ac yr oedd y cymylau hefyd yn diferu dŵr.

5. Siglodd y mynyddoedd o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai,o flaen ARGLWYDD Dduw Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 5