Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 4:16-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ymlidiodd Barac y cerbydau a'r fyddin cyn belled â Haroseth y Cenhedloedd, a chwympodd holl fyddin Sisera o flaen y cleddyf, heb adael cymaint ag un.

17. Ffodd Sisera ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead, oherwydd yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a theulu Heber y Cenead.

18. Daeth Jael allan i gyfarfod Sisera a dywedodd wrtho, “Tro i mewn, f'arglwydd, tro i mewn ataf, paid ag ofni.” Felly troes i mewn ati i'r babell, a thaenodd hithau gwrlid drosto.

19. Gofynnodd iddi am lymaid o ddŵr i'w yfed, gan fod syched arno, ond agorodd hi botel o laeth a rhoi diod iddo, ac yna ei orchuddio eto.

20. Dywedodd wrthi, “Saf yn nrws y babell, ac os daw rhywun a gofyn iti a oes unrhyw un yma, dywed, ‘Nac oes’.”

21. Cymerodd Jael, gwraig Heber, hoelen pabell, cydiodd mewn morthwyl, ac aeth ato'n ddistaw a phwyo'r hoelen trwy ei arlais i'r llawr; yr oedd ef mewn trymgwsg ar ôl ei ludded, a bu farw.

22. Yna cyrhaeddodd Barac, yn ymlid Sisera; aeth Jael allan i'w gyfarfod, a dywedodd wrtho, “Tyrd, fe ddangosaf iti'r dyn yr wyt yn chwilio amdano.” Aeth yntau i mewn, a dyna lle'r oedd Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoelen yn ei arlais.

23. Y diwrnod hwnnw darostyngodd Duw Jabin brenin Canaan gerbron yr Israeliaid.

24. Pwysodd yr Israeliaid yn drymach, drymach arno, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 4