Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 21:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Beth a wnawn ni dros y dynion sydd ar ôl, a ninnau wedi tyngu i'r ARGLWYDD na roddem iddynt yr un o'n merched yn wraig?”

8. Ac meddent, “Prun o lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa?” Nid oedd neb o Jabes-gilead wedi dod i'r gwersyll i'r cynulliad.

9. Pan gyfrifwyd y bobl, nid oedd yno neb o drigolion Jabes-gilead.

10. Felly anfonodd y cynulliad ddeuddeng mil o wŷr rhyfel yno, a gorchymyn iddynt, “Ewch a lladdwch drigolion Jabes-gilead â'r cleddyf, yn cynnwys y gwragedd a'r plant.

11. A dyma'r hyn a wnewch: dinistriwch yn llwyr bob dyn, a phob dynes nad yw'n wyryf.”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 21