Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 21:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Gofidiodd yr Israeliaid am eu perthynas Benjamin, a dweud, “Y mae un llwyth wedi ei dorri allan o Israel heddiw.

7. Beth a wnawn ni dros y dynion sydd ar ôl, a ninnau wedi tyngu i'r ARGLWYDD na roddem iddynt yr un o'n merched yn wraig?”

8. Ac meddent, “Prun o lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa?” Nid oedd neb o Jabes-gilead wedi dod i'r gwersyll i'r cynulliad.

9. Pan gyfrifwyd y bobl, nid oedd yno neb o drigolion Jabes-gilead.

10. Felly anfonodd y cynulliad ddeuddeng mil o wŷr rhyfel yno, a gorchymyn iddynt, “Ewch a lladdwch drigolion Jabes-gilead â'r cleddyf, yn cynnwys y gwragedd a'r plant.

11. A dyma'r hyn a wnewch: dinistriwch yn llwyr bob dyn, a phob dynes nad yw'n wyryf.”

12. Cawsant ymhlith Jabes-gilead bedwar cant o wyryfon nad oeddent wedi gorwedd gyda dyn; a daethant â hwy i'r gwersyll i Seilo yng ngwlad Canaan.

13. Anfonodd y cynulliad cyfan neges at y Benjaminiaid oedd yng nghraig Rimmon, a chynnig heddwch iddynt.

14. Yna, wedi iddynt ddychwelyd, rhoesant iddynt y merched o Jabes-gilead yr oeddent wedi eu harbed. Eto nid oedd hynny'n ddigon ar eu cyfer.

15. A chan fod y bobl yn gofidio am Benjamin, am i'r ARGLWYDD wneud bwlch yn llwythau Israel,

16. dywedodd henuriaid y cynulliad, “Beth a wnawn am wragedd i'r gweddill, gan fod y merched wedi eu difa o blith Benjamin?”

17. Ac meddent, “Rhaid cael etifeddion i'r rhai o Benjamin a arbedwyd, rhag dileu llwyth o Israel.

18. Ni allwn roi iddynt wragedd o blith ein merched ni, am fod yr Israeliaid wedi tyngu, ‘Melltigedig fyddo'r hwn a roddo wraig i Benjamin.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 21