Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 12:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Meddiannodd Gilead y rhydau dros yr Iorddonen i gyfeiriad Effraim, a phan fyddai ffoadur o Effraim yn crefu am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn iddo, “Ai un o Effraim wyt ti?” Pe byddai hwnnw'n ateb, “Nage”,

6. yna byddent yn dweud wrtho, “Dywed, ‘Shibboleth’.” Byddai yntau'n dweud, “Sibboleth”, gan na fedrai ynganu'n gywir. Ac wedi iddynt ei ddal, byddent yn ei ladd ger rhydau'r Iorddonen. Bu farw dwy fil a deugain o wŷr Effraim y pryd hwnnw.

7. Bu Jefftha o Gilead yn farnwr ar Israel am chwe blynedd; a phan fu farw, claddwyd ef yn ei dref yn Gilead.

8. Ar ei ôl ef bu Ibsan o Fethlehem yn farnwr ar Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 12