Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 12:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Galwodd gwŷr Effraim eu milwyr ynghyd a chroesi i Saffon, a dweud wrth Jefftha, “Pam yr aethost i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ein gwahodd ni i fynd gyda thi? Fe losgwn dy dŷ am dy ben.”

2. Dywedodd Jefftha, “Yr oedd gennyf fi a'm pobl achos chwerw yn erbyn yr Ammoniaid, ond pe byddwn wedi galw arnoch chwi, ni fyddech wedi fy achub o'u llaw.

3. Pan welais na fyddech yn fy achub, mentrais fynd yn erbyn yr Ammoniaid; ac fe roddodd yr ARGLWYDD hwy yn fy llaw. Pam yr ydych wedi dod ataf heddiw i ymladd â mi?”

4. Yna casglodd Jefftha holl filwyr Gilead at ei gilydd ac ymladd ag Effraim; a threchodd milwyr Gilead bobl Effraim, am iddynt ddweud, “Fföedigion o Effraim ydych chwi, bobl Gilead, ymysg pobl Effraim a Manasse.”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 12