Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 11:5-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. A phan ddechreuodd y brwydro rhwng yr Ammoniaid ac Israel, aeth henuriaid Gilead i gyrchu Jefftha o wlad Tob,

6. a dweud wrtho, “Tyrd, bydd di'n arweinydd inni, er mwyn inni ymladd â'r Ammoniaid.”

7. Ond dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead, “Onid chwi oedd yn fy nghasáu ac yn fy ngyrru o dŷ fy nhad? Pam y dewch ataf fi yn awr pan yw'n gyfyng arnoch?”

8. Ac meddent hwythau wrtho, “Dyna pam y daethom atat yn awr. Tyrd yn ôl gyda ni ac ymladd â'r Ammoniaid, a chei fod yn ben ar holl drigolion Gilead.”

9. Dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead, “Os byddwch yn fy nghymryd yn ôl i ymladd â'r Ammoniaid, a'r ARGLWYDD yn eu rhoi yn fy llaw, yna byddaf yn ben arnoch.”

10. Dywedodd henuriaid Gilead wrth Jefftha, “Bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom y gwnawn yn ôl dy air.”

11. Aeth Jefftha gyda henuriaid Gilead, a gwnaeth y fyddin ef yn ben ac yn arweinydd arnynt, ac adroddodd Jefftha gerbron yr ARGLWYDD yn Mispa bopeth yr oedd wedi ei gytuno.

12. Anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid a dweud, “Beth sydd gennyt yn f'erbyn, dy fod wedi dod i ymosod ar fy ngwlad?”

13. Dywedodd brenin yr Ammoniaid wrth negeswyr Jefftha, “Pan ddaeth Israel i fyny o'r Aifft, meddiannodd fy ngwlad rhwng nentydd Arnon a Jabboc, hyd at yr Iorddonen; felly dyro hi'n ôl yn awr yn heddychol.”

14. Anfonodd Jefftha negeswyr eto at frenin yr Ammoniaid

15. i ddweud wrtho, “Dyma a ddywed Jefftha: ‘Ni chymerodd Israel dir Moab na thir yr Ammoniaid;

16. oherwydd pan ddaethant i fyny o'r Aifft, fe aeth Israel trwy'r anialwch hyd at y Môr Coch nes dod i Cades.

17. Yna fe anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom a dweud, “Gad imi fynd trwy dy dir di”; ond ni wrandawai brenin Edom. Wedyn anfonwyd at frenin Moab, ac nid oedd ef yn fodlon; felly arhosodd Israel yn Cades.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 11