Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 11:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd Jefftha, brodor o Gilead, yn ŵr dewr; yr oedd yn fab i butain, a Gilead oedd ei dad.

2. Yr oedd gan wraig Gilead hefyd feibion, ac wedi iddynt dyfu, gyrasant Jefftha allan a dweud wrtho, “Ni chei di etifeddiaeth yn nhŷ ein tad, oherwydd mab i wraig estron wyt ti.”

3. Ciliodd Jefftha oddi wrth ei frodyr, a mynd i fyw i wlad Tob, lle casglodd ato nifer o wŷr ofer a oedd yn ei ddilyn.

4. Ymhen amser aeth yr Ammoniaid i ryfela yn erbyn yr Israeliaid.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 11