Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 1:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Ni ddisodlodd Nafftali drigolion Beth-semes na thrigolion Beth-anath; buont yn byw ymysg y Canaaneaid oedd yn trigo yn y wlad, a bu trigolion Beth-semes a Beth-anath dan lafur gorfod iddynt.

34. Gwasgodd yr Amoriaid y Daniaid tua'r mynydd-dir oherwydd nid oeddent yn caniatáu iddynt ddod i lawr i'r gwastatir.

35. Daliodd yr Amoriaid eu tir ym Mynydd Heres ac Ajalon a Saalbim, ond pwysodd tylwyth Joseff yn drymach arnynt ac aethant dan lafur gorfod.

36. Yr oedd terfyn yr Amoriaid o riw Acrabbim, o Sela i fyny.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 1