Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 1:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Atebodd hithau, “Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef; rho imi hefyd ffynhonnau dŵr.” Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.

16. Yr oedd disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, wedi dod i fyny gyda'r Jwdeaid o Ddinas y Palmwydd i anialwch Jwda, sydd yn Negef Arad, ac wedi mynd i fyw ymysg y bobl.

17. Aeth Jwda gyda'i frawd Simeon a tharo'r Canaaneaid oedd yn byw yn Seffath, a difrodi'r ddinas a'i galw'n Horma.

18. Enillodd Jwda Gasa, Ascalon ac Ecron, a'r diriogaeth o amgylch pob un.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 1