Hen Destament

Testament Newydd

Amos 8:5-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. ac yn dweud, “Pa bryd y mae'r newydd-loer yn diweddu,inni gael gwerthu ŷd;a'r saboth, inni roi'r grawn ar werth,inni leihau'r effa a thrymhau'r sicl,inni gael twyllo â chloriannau anghywir,

6. inni gael prynu'r tlawd am ariana'r anghenus am bâr o sandalau,a gwerthu ysgubion yr ŷd?”

7. Tyngodd yr ARGLWYDD i falchder Jacob,“Ni allaf fyth anghofio'u gweithredoedd.

8. Onid am hyn y cryna'r ddaearnes y galara'i holl drigolion,ac y cwyd i gyd fel y Neil,a dygyfor a gostwng fel afon yr Aifft?”

9. “Y dydd hwnnw,” medd yr Arglwydd DDUW,“gwnaf i'r haul fachlud am hanner dydd,a thywyllaf y ddaear gefn dydd golau.

10. Trof eich gwyliau yn alarua'ch holl ganiadau yn wylofain;rhof sachliain am eich llwynaua moelni ar eich pennau.Fe'i gwnaf yn debyg i alar am unig fab;bydd ei ddiwedd yn ddiwrnod chwerw.

11. “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr Arglwydd DDUW,“pan anfonaf newyn i'r wlad;nid newyn am fara, na syched am ddŵr,ond am glywed geiriau'r ARGLWYDD.

12. Crwydrant o fôr i fôrac o'r gogledd i'r dwyrain;ânt yn ôl ac ymlaen i geisio gair yr ARGLWYDD,ond heb ei gael.

13. “Yn y dydd hwnnw, bydd gwyryfon teg a gwŷr ifaincyn llewygu o syched.

14. Y rhai sy'n tyngu i Asima Samaria,ac yn dweud, ‘Cyn wired â bod dy dduw yn fyw, Dan’,neu, ‘Cyn wired â bod dy dduw yn fyw, Beerseba’—fe syrthiant oll heb godi byth mwy.”

Darllenwch bennod gyflawn Amos 8