Hen Destament

Testament Newydd

Amos 7:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn. “Ni fydd hyn,” medd yr ARGLWYDD.

4. Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma'r Arglwydd DDUW yn galw am farn trwy dân, a hwnnw'n difa'r dyfnder mawr, ac yn ysu'r tir hefyd.

5. A dywedais,“O Arglwydd DDUW, paid!Sut y saif Jacob,ac yntau mor fychan?”

6. Ac edifarhaodd yr ARGLWYDD. “Ni fydd hyn chwaith,” medd yr Arglwydd DDUW.

7. Fel hyn y dangosodd i mi: dyma'r Arglwydd yn sefyll ger mur a godwyd â llinyn plwm, a'r llinyn plwm yn ei law.

8. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Llinyn plwm.” A dywedodd yr Arglwydd,“Wele fi'n gosod llinyn plwmyng nghanol fy mhobl Israel;nid af heibio iddynt byth eto.

9. Difodir uchelfeydd Isaaca distrywir cysegrleoedd Israel;a chodaf gleddyf yn erbyn tŷ Jeroboam.”

Darllenwch bennod gyflawn Amos 7