11. Oherwydd fel hyn y dywed Amos: ‘Bydd Jeroboam yn marw trwy'r cleddyf, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ”
12. A dywedodd Amaseia wrth Amos, “Dos ymaith, weledydd; ffo i wlad Jwda; ennill dy damaid yno, a phroffwyda yno.
13. Paid â phroffwydo ym Methel eto, gan mai dyma gysegr y brenin a theml y wladwriaeth.”
14. Ond atebodd Amos a dweud wrth Amaseia, “Nid oeddwn i'n broffwyd, nac yn fab i broffwyd chwaith; bugail oeddwn i, a garddwr coed sycamor;
15. ond cymerodd yr ARGLWYDD fi oddi wrth y praidd, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’
16. Gwrando yn awr ar air yr ARGLWYDD.“Yr wyt ti'n dweud, ‘Paid â phroffwydo yn erbyn Israel,a phaid â llefaru yn erbyn tŷ Isaac.’
17. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:‘Bydd dy wraig yn puteinio yn y ddinas;fe syrth dy feibion a'th ferched trwy'r cleddyf;rhennir dy dir â'r llinyn;byddi dithau'n marw mewn gwlad aflan,ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ”