Hen Destament

Testament Newydd

Amos 6:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Felly, yn awr, chwi fydd y cyntaf i'r gaethglud;derfydd am rialtwch y rhai sy'n gorweddian.

8. Tyngodd yr Arglwydd DDUW iddo'i hun;medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd:“Yr wyf yn ffieiddio balchder Jacob,ac yn casáu ei geyrydd;gadawaf y ddinas a phopeth sydd ynddi.”

9. Os gadewir deg o bobl mewn un tŷ, byddant farw.

10. Pan ddaw perthynas, sydd am losgi un ohonynt, yno i'w godi a dwyn ei gorff allan o'r tŷ, a dweud wrth un sydd yng nghanol y tŷ, “A oes rhywun gyda thi?” fe ddywed yntau, “Nac oes.” Yna fe ddywed, “Taw! Nid yw enw'r ARGLWYDD i'w grybwyll.”

11. Wele, yr ARGLWYDD sy'n gorchymyn;bydd yn taro'r plasty yn deilchiona'r bwthyn yn siwrwd.

12. A garlama meirch ar graig?A ellir aredig môr ag ychen?Ond troesoch chwi farn yn wenwyn,a ffrwyth cyfiawnder yn wermod.

13. Llawenhau yr ydych am Lo-debar,a dweud, “Onid trwy ein nerth ein hunainy cymerasom ni Carnaim?”

14. “Wele, yr wyf yn codi cenedl yn eich erbyn, tŷ Israel,”medd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd,“ac fe'ch gorthrymant o Lebo-hamathhyd at afon yr Araba.”

Darllenwch bennod gyflawn Amos 6