Hen Destament

Testament Newydd

Amos 6:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae y rhai sydd mewn esmwythyd yn Seion,y rhai sy'n teimlo'n ddiogel ar Fynydd Samaria,gwŷr mawr y genedl bennaf,y rhai y mae tŷ Israel yn troi atynt.

2. Ewch trosodd i Calne ac edrychwch;oddi yno ewch i Hamath fawr,ac yna i lawr i Gath y Philistiaid.A ydynt yn well na'ch teyrnasoedd chwi?A yw eu tiriogaeth yn fwy na'r eiddoch chwi?

3. Chwi, sy'n ceisio pellhau'r dydd drwg,ond yn dwyn teyrnasiad trais yn nes;

Darllenwch bennod gyflawn Amos 6