Hen Destament

Testament Newydd

Amos 5:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Gwna i ddinistr fflachio ar y cryf,a daw distryw ar y gaer.

10. Y maent yn casáu'r un a wna farn yn y porth,ac yn ffieiddio'r sawl a lefara'n onest.

11. Felly, am ichwi sathru'r tlawd,a chymryd oddi arno ei gyfran gwenith—er ichwi godi tai o gerrig nadd,ni chewch fyw ynddynt;er ichwi blannu gwinllannoedd hyfryd,ni chewch yfed eu gwin.

12. Canys gwn mor niferus yw'ch troseddauac mor fawr yw'ch pechodau—chwi, sy'n gorthrymu'r cyfiawn, yn derbyn llwgrwobr,ac yn troi ymaith y tlawd yn y porth.

13. Felly tawed y doeth ar y fath amser,canys amser drwg ydyw.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 5