Hen Destament

Testament Newydd

Amos 5:7-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. chwi sy'n troi barn yn wermod,ac yn taflu cyfiawnder i'r llawr.

8. Ef a wnaeth Pleiades ac Orion;ef sy'n troi tywyllwch yn fore,ac yn tywyllu'r dydd yn nos.Ef sy'n galw ar ddyfroedd y môr,ac yn eu tywallt ar wyneb y tir;yr ARGLWYDD yw ei enw.

9. Gwna i ddinistr fflachio ar y cryf,a daw distryw ar y gaer.

10. Y maent yn casáu'r un a wna farn yn y porth,ac yn ffieiddio'r sawl a lefara'n onest.

11. Felly, am ichwi sathru'r tlawd,a chymryd oddi arno ei gyfran gwenith—er ichwi godi tai o gerrig nadd,ni chewch fyw ynddynt;er ichwi blannu gwinllannoedd hyfryd,ni chewch yfed eu gwin.

12. Canys gwn mor niferus yw'ch troseddauac mor fawr yw'ch pechodau—chwi, sy'n gorthrymu'r cyfiawn, yn derbyn llwgrwobr,ac yn troi ymaith y tlawd yn y porth.

13. Felly tawed y doeth ar y fath amser,canys amser drwg ydyw.

14. Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni,fel y byddwch fywac y bydd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, gyda chwi,fel yr ydych yn honni ei fod.

15. Casewch ddrygioni, carwch ddaioni,gofalwch am farn yn y porth;efallai y trugarha'r ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd,wrth weddill Joseff.

16. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, yr Arglwydd:“Ym mhob sgwâr fe fydd wylo,ym mhob stryd fe ddywedant, ‘Och! Och!’Galwant ar y llafurwr i alaruac ar y galarwyr i gwynfan.

17. Bydd wylofain ym mhob gwinllan,oherwydd mi af trwy dy ganol,” medd yr ARGLWYDD.

18. Gwae y rhai sy'n dyheu am ddydd yr ARGLWYDD!Beth fydd dydd yr ARGLWYDD i chwi?Tywyllwch fydd, nid goleuni;

19. fel pe bai dyn yn dianc rhag llew,ac arth yn ei gyfarfod;neu'n cyrraedd y tŷ ac yn rhoi ei law ar y pared,a neidr yn ei frathu.

20. Onid tywyllwch fydd dydd yr ARGLWYDD, ac nid goleuni;caddug, heb lygedyn golau ynddo?

21. “Yr wyf yn casáu, yr wyf yn ffieiddio eich gwyliau;nid oes imi bleser yn eich cymanfaoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 5