Hen Destament

Testament Newydd

Amos 3:5-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. A syrth aderyn ar y ddaearos nad oes magl iddo?A neidia'r groglath oddi ar y ddaearos nad yw wedi dal dim?

6. A genir utgorn yn y ddinasheb i'r bobl ddychryn?A ddaw trychineb i'r ddinasheb i'r ARGLWYDD ei anfon?

7. Ni wna'r Arglwydd DDUW ddimheb ddangos ei fwriad i'w weision, y proffwydi.

8. Rhuodd y llew;pwy nid ofna?Llefarodd yr Arglwydd DDUW;pwy all beidio â phroffwydo?

9. Cyhoeddwch wrth geyrydd Asyria,ac wrth geyrydd gwlad yr Aifft;dywedwch, “Ymgynullwch ar fynyddoedd Samaria,ac edrych ar y terfysgoedd mawr o'i mewn,ac ar y gorthrymderau sydd ynddi.”

10. “Ni wyddant sut i wneud yr hyn sy'n iawn,” medd yr ARGLWYDD.“Y maent yn pentyrru trais ac ysbail yn eu ceyrydd.”

11. Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:“Daw gelyn i amgylchu'r wlad,a bwrw i lawr dy amddiffynfeyddac ysbeilio dy geyrydd.”

12. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Fel y gwareda'r bugail ddwy goes neu ddarn o glust o safn y llew, felly o'r Israeliaid sy'n trigo yn Samaria, gwaredir cwr o fatras neu ddarn o wely.”

13. “Clywch, a thystiwch yn erbyn tŷ Jacob,”medd yr Arglwydd DDUW, Duw'r Lluoedd.

14. “Ar y dydd y cosbaf Israel am ei bechodau,fe gosbaf allorau Bethel;torrir cyrn yr allor,a syrthiant i'r llawr.

15. Difethaf y tŷ gaeaf a'r tŷ haf;derfydd am y tai ifori,a daw diwedd ar y tai mawrion,” medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 3