Hen Destament

Testament Newydd

Amos 3:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwrandewch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn eich erbyn, bobl Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o'r Aifft:

2. “Chwi'n unig a adwaenaiso holl deuluoedd y ddaear;am hynny, fe'ch cosbaf chwiam eich holl gamweddau.”

3. A gerdda dau gyda'i gilyddheb wneud cytundeb?

4. A rua llew yn y goedwigpan fydd heb ysglyfaeth?A waedda'r llew ifanc o'i ffaupan fydd heb ddal dim?

5. A syrth aderyn ar y ddaearos nad oes magl iddo?A neidia'r groglath oddi ar y ddaearos nad yw wedi dal dim?

Darllenwch bennod gyflawn Amos 3