Hen Destament

Testament Newydd

Amos 1:2-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Dywedodd,“Rhua'r ARGLWYDD o Seion,a chwyd ei lef o Jerwsalem;galara porfeydd y bugeiliaid,a gwywa pen Carmel.”

3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Damascus,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt ddyrnu Gileadâ llusg-ddyrnwyr haearn,

4. anfonaf dân ar dŷ Hasael,ac fe ddifa geyrydd Ben-hadad.

5. Drylliaf farrau pyrth Damascus,a thorraf ymaith y trigolion o ddyffryn Afen,a pherchen y deyrnwialen o Beth-eden;a chaethgludir pobl Syria i Cir,” medd yr ARGLWYDD.

6. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Gasa,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfani'w caethiwo yn Edom,

7. anfonaf dân ar fur Gasa,ac fe ddifa ei cheyrydd.

8. Torraf ymaith y trigolion o Asdod,a pherchen y deyrnwialen o Ascalon;trof fy llaw yn erbyn Ecron,a difodir gweddill y Philistiaid,” medd yr Arglwydd DDUW.

9. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Tyrus,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan i Edom,ac anghofio cyfamod brawdol,

10. anfonaf dân ar fur Tyrus,ac fe ddifa ei cheyrydd.”

11. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Edom,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddo ymlid ei frawd â chleddyf,a mygu ei drugaredd,a bod ei lid yn rhwygo'n barhausa'i ddigofaint yn dal am byth,

12. anfonaf dân ar Teman,ac fe ddifa geyrydd Bosra.”

13. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau'r Ammoniaid,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt rwygo gwragedd beichiog Gilead,er mwyn ehangu eu terfynau,

14. cyneuaf dân ar fur Rabba,ac fe ddifa ei cheyryddâ bloedd ar ddydd brwydr,a chorwynt ar ddydd tymestl.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 1