1. Wedi i'r brenin fynd i fyw i'w dŷ ei hun, ac i'r ARGLWYDD roi llonyddwch iddo oddi wrth ei holl elynion o'i amgylch,
2. dywedodd y brenin wrth y proffwyd Nathan, “Edrych yn awr, yr wyf fi'n trigo mewn tŷ o gedrwydd, tra mae arch Duw yn aros mewn pabell.”
3. Ac meddai Nathan wrth y brenin, “Dos, a gwna bopeth sydd yn dy galon, oherwydd y mae'r ARGLWYDD gyda thi.”
4. Ond y noson honno daeth gair yr ARGLWYDD at Nathan, gan ddweud,
5. “Dos, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: A wyt ti am adeiladu i mi dŷ i breswylio ynddo?
6. Yn wir, nid wyf wedi preswylio mewn tŷ o'r diwrnod y dygais yr Israeliaid allan o'r Aifft hyd heddiw; yr oeddwn yn mynd o le i le mewn pabell a thabernacl.
7. Ple bynnag y bûm yn teithio gyda'r holl Israeliaid, a fu imi yngan gair wrth unrhyw un o farnwyr Israel, a benodais i fugeilio fy mhobl Israel, a gofyn, “Pam na fyddech wedi adeiladu tŷ o gedrwydd i mi?” ’
8. Felly, dywed fel hyn wrth fy ngwas Dafydd, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Myfi a'th gymerodd di o'r maes, o ganlyn defaid, i fod yn arweinydd i'm pobl Israel.