1. Unwaith eto casglodd Dafydd yr holl wŷr dethol oedd yn Israel, sef deng mil ar hugain,
2. ac aeth â'r holl bobl oedd gydag ef i Baalath-jwda, i gyrchu oddi yno arch Duw, a enwir ar ôl ARGLWYDD y Lluoedd sydd â'i orsedd ar y cerwbiaid.
3. Rhoesant arch Duw ar fen newydd, a'i chymryd o dŷ Abinadab sydd ar y bryn, ac yr oedd Ussa ac Ahïo, meibion Abinadab, yn tywys y fen newydd.
4. Wedi cychwyn gydag arch Duw o dŷ Abinadab sydd ar y bryn, yr oedd Ahïo yn cerdded o flaen yr arch,
5. ac yr oedd Dafydd a holl dŷ Israel yn gorfoleddu o flaen yr ARGLWYDD â'u holl ynni, dan ganu â thelynau, nablau, tympanau, sistrymau a symbalau.
6. Pan ddaethant at lawr dyrnu Nachon, estynnodd Ussa ei law at arch Duw a gafael ynddi, am fod yr ychen yn ei hysgwyd.
7. Enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, trawodd Duw ef am yr amarch, a bu farw yno wrth arch Duw.
8. Cynhyrfodd Dafydd am fod llid yr ARGLWYDD wedi torri allan yn erbyn Ussa, a galwodd y lle hwnnw Peres Ussa; a dyna'i enw hyd y dydd hwn.
9. Yr oedd ofn yr ARGLWYDD ar Ddafydd y diwrnod hwnnw, a dywedodd, “Sut y deuai arch yr ARGLWYDD ataf fi?”
10. Ni fynnai Dafydd symud arch yr ARGLWYDD ato i Ddinas Dafydd, ac fe'i trodd i dŷ Obed-edom o Gath.
11. Arhosodd arch yr ARGLWYDD yn nhŷ Obed-edom o Gath am dri mis, a bendithiodd yr ARGLWYDD Obed-edom a'i deulu i gyd.
12. Pan ddywedwyd wrth y Brenin Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi bendithio teulu Obed-edom a'r cwbl oedd ganddo, o achos arch Duw, fe aeth Dafydd a chymryd arch Duw yn llawen o dŷ Obed-edom i Ddinas Dafydd.