Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 5:3-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yna daeth holl henuriaid Israel i Hebron at y brenin, a gwnaeth y Brenin Dafydd gyfamod â hwy yn Hebron gerbron yr ARGLWYDD, ac eneiniwyd Dafydd yn frenin ar Israel.

4. Deng mlwydd ar hugain oed oedd Dafydd pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddeugain mlynedd.

5. Yn Hebron teyrnasodd dros Jwda am saith mlynedd a chwe mis; yna yn Jerwsalem fe deyrnasodd dros Israel a Jwda gyfan am dair ar ddeg ar hugain o flynyddoedd.

6. Pan aeth Dafydd a'i ddynion i Jerwsalem yn erbyn y Jebusiaid oedd yn byw yn y wlad, dywedasant wrth Ddafydd, “Ni ddoi i mewn yma; bydd deillion a chloffion yn dy droi di'n ôl”—gan dybio nad âi Dafydd i mewn yno.

7. Eto fe enillodd Dafydd gaer Seion, sef Dinas Dafydd.

8. Y diwrnod hwnnw fe ddywedodd Dafydd, “Pob un sydd am daro'r Jebusiaid, aed i fyny trwy'r siafft ddŵr at y cloffion a'r deillion sy'n gas gan enaid Dafydd.” Dyna pam y dywedir, “Ni chaiff y dall na'r cloff ddod i'r deml.”

9. Pan ymsefydlodd Dafydd yn y gaer, galwodd hi yn Ddinas Dafydd, ac adeiladodd fur o'i chwmpas, o'r Milo at y deml.

10. Cynyddodd Dafydd fwyfwy, ac yr oedd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd o'i blaid.

11. Anfonodd Hiram brenin Tyrus negeswyr at Ddafydd, a hefyd goed cedrwydd a seiri coed a seiri maen, ac adeiladodd y rhain dŷ ar gyfer Dafydd.

12. Sylweddolodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei gadarnhau yn frenin ar Israel, a'i fod wedi dyrchafu ei frenhiniaeth er mwyn ei bobl Israel.

13. Wedi iddo ddod o Hebron, cymerodd Dafydd ragor o ordderchwragedd ac o wragedd o Jerwsalem; a ganed rhagor o feibion ac o ferched iddo.

14. Dyma enwau'r rhai a aned iddo yn Jerwsalem: Samua, Sobab, Nathan, Solomon,

15. Ibhar, Elisua, Neffeg, Jaffia,

16. Elisama, Eliada ac Eliffelet.

17. Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar Israel, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth i lawr i'r gaer.

18. Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim,

19. ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a dweud, “A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe roddaf y Philistiaid yn dy law.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 5