Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 3:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. fe lidiodd Abner yn fawr oherwydd geiriau Isboseth, ac atebodd, “Ai penci ar ochr Jwda wyf fi? Hyd yma bûm yn deyrngar i deulu dy dad Saul, ac i'w berthnasau a'i gyfeillion; ac ni adewais i ti syrthio i ddwylo Dafydd, a dyma ti heddiw yn edliw imi drosedd gyda benyw.

9. Gwnaed Duw fel hyn i mi, Abner, a rhagor hefyd, os na wnaf dros Ddafydd yr hyn a addawodd yr ARGLWYDD iddo,

10. a thynnu'r frenhiniaeth oddi ar deulu Saul a sefydlu Dafydd ar orsedd Israel a Jwda, o Dan hyd Beerseba.”

11. Ni fedrai Isboseth yngan yr un gair wrth Abner wedi hyn, oherwydd bod arno ei ofn.

12. Anfonodd Abner negeswyr ar ei ran at Ddafydd i ddweud, “Pwy biau'r wlad? Gwna di gyfamod â mi, ac yna bydd fy llaw o'th blaid i droi Israel gyfan atat.”

13. Atebodd yntau, “Ardderchog! Fe wnaf fi gyfamod â thi; ond yr wyf am hawlio un peth gennyt: ni chei weld fy wyneb, heb iti ddod â Michal ferch Saul gyda thi, pan ddoi i'm gweld.”

14. Yna anfonodd Dafydd negeswyr at Isboseth fab Saul, a dweud, “Rho imi fy ngwraig Michal, a ddyweddïais imi am gant o flaengrwyn Philistiaid.”

15. Anfonodd Isboseth a'i chymryd oddi wrth ei gŵr Paltiel fab Lais.

16. Dilynodd ei gŵr yn wylofus ar ei hôl hyd Bahurim, ond wedi i Abner ddweud wrtho, “Dos yn d'ôl”, fe ddychwelodd adref.

17. Anfonodd Abner air at henuriaid Israel a dweud, “Ers tro byd buoch yn ceisio cael Dafydd yn frenin arnoch.

18. Yn awr, gweithredwch; oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dweud am Ddafydd, ‘Trwy law fy ngwas Dafydd y gwaredaf fy mhobl Israel oddi wrth y Philistiaid a'u gelynion i gyd.’ ”

19. Siaradodd Abner hefyd â llwyth Benjamin. Yna aeth Abner i Hebron i ddweud wrth Ddafydd y cwbl yr oedd Israel a llwyth Benjamin wedi cytuno arno.

20. Daeth Abner at Ddafydd i Hebron gydag ugain o ddynion, a gwnaeth Dafydd wledd i Abner a'i ddynion.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 3