Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 3:27-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Pan ddychwelodd Abner i Hebron, cymerodd Joab ef o'r neilltu yng nghanol y porth, fel pe bai am siarad yn gyfrinachol ag ef. Ond trawodd ef yn ei fol o achos gwaed ei frawd Asahel, a bu farw yno.

28. Wedi i'r peth ddigwydd y clywodd Dafydd, a dywedodd, “Dieuog wyf fi a'm teyrnas am byth gerbron yr ARGLWYDD ynglŷn â gwaed Abner fab Ner;

29. bydded ei waed ar Joab a'i holl deulu! Na fydded teulu Joab heb aelod diferllyd, neu wahanglwyfus, neu ar ei faglau, neu glwyfedig gan gleddyf, neu brin o fwyd!”

30. Yr oedd Joab a'i frawd Abisai wedi llofruddio Abner oherwydd iddo ef ladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.

31. Dywedodd Dafydd wrth Joab a'r holl bobl oedd gydag ef, “Rhwygwch eich dillad a gwisgwch sachliain a gwnewch alar o flaen Abner.” Cerddodd y Brenin Dafydd ar ôl yr elor,

32. a chladdwyd Abner yn Hebron. Wylodd y brenin yn uchel uwchben bedd Abner ac yr oedd yr holl bobl yn wylo hefyd.

33. Yna canodd y brenin yr alarnad hon am Abner:

34. “A oedd raid i Abner farw fel ynfytyn?Nid oedd dy ddwylo wedi eu rhwymo,na'th draed ynghlwm mewn cyffion.Syrthiaist fel un yn syrthio o flaen rhai twyllodrus.”Ac yr oedd yr holl bobl yn parhau i wylo drosto.

35. Daeth y bobl i gyd i gymell Dafydd i fwyta tra oedd yn olau dydd; ond aeth Dafydd ar ei lw, “Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os cyffyrddaf â bara neu ddim oll cyn machlud haul.”

36. Cymerodd pawb sylw o hyn, ac yr oedd yn dda ganddynt, fel yr oedd y cwbl a wnâi'r brenin yn dda yng ngolwg yr holl bobl.

37. Yr oedd yr holl bobl ac Israel gyfan yn sylweddoli y diwrnod hwnnw nad oedd a wnelo'r brenin ddim â lladd Abner fab Ner.

38. Dywedodd y brenin wrth ei ddilynwyr, “Onid ydych yn sylweddoli fod pendefig a gŵr mawr wedi syrthio heddiw yn Israel?

39. Er imi gael f'eneinio'n frenin, yr wyf heddiw yn wan, ac y mae'r dynion hyn, meibion Serfia, yn rhy arw i mi; bydded i'r ARGLWYDD dalu i'r sawl sy'n gwneud drwg, yn ôl ei ddrygioni.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 3