2. Ganwyd meibion i Ddafydd yn Hebron. Ei gyntafanedig oedd Amnon, plentyn Ahinoam o Jesreel.
3. Yr ail oedd Chileab, plentyn Abigail, gwraig Nabal, o Garmel; y trydydd oedd Absalom, mab Maacha merch Talmai brenin Gesur.
4. Y pedwerydd oedd Adoneia mab Haggith; y pumed oedd Seffatia mab Abital;
5. a'r chweched, Ithream, plentyn Egla gwraig Dafydd. Dyma'r rhai a anwyd i Ddafydd yn Hebron.
6. Tra oedd rhyfel rhwng teulu Saul a theulu Dafydd, yr oedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad gyda theulu Saul.
7. Bu gan Saul ordderch o'r enw Rispa ferch Aia; a phan ddywedodd Isboseth wrth Abner, “Pam yr aethost i mewn at ordderch fy nhad?”
8. fe lidiodd Abner yn fawr oherwydd geiriau Isboseth, ac atebodd, “Ai penci ar ochr Jwda wyf fi? Hyd yma bûm yn deyrngar i deulu dy dad Saul, ac i'w berthnasau a'i gyfeillion; ac ni adewais i ti syrthio i ddwylo Dafydd, a dyma ti heddiw yn edliw imi drosedd gyda benyw.
9. Gwnaed Duw fel hyn i mi, Abner, a rhagor hefyd, os na wnaf dros Ddafydd yr hyn a addawodd yr ARGLWYDD iddo,
10. a thynnu'r frenhiniaeth oddi ar deulu Saul a sefydlu Dafydd ar orsedd Israel a Jwda, o Dan hyd Beerseba.”
11. Ni fedrai Isboseth yngan yr un gair wrth Abner wedi hyn, oherwydd bod arno ei ofn.