Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 3:19-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Siaradodd Abner hefyd â llwyth Benjamin. Yna aeth Abner i Hebron i ddweud wrth Ddafydd y cwbl yr oedd Israel a llwyth Benjamin wedi cytuno arno.

20. Daeth Abner at Ddafydd i Hebron gydag ugain o ddynion, a gwnaeth Dafydd wledd i Abner a'i ddynion.

21. Yna dywedodd Abner wrth Ddafydd, “Yr wyf am fynd yn awr i gasglu Israel gyfan ynghyd at f'arglwydd frenin, er mwyn iddynt wneud cyfamod â thi; yna byddi'n frenin ar y cyfan yr wyt yn ei chwenychu.” Gadawodd Dafydd i Abner fynd ymaith, ac aeth yntau mewn heddwch.

22. Ar hynny, cyrhaeddodd dilynwyr Dafydd gyda Joab; yr oeddent wedi bod ar gyrch, ac yn dwyn llawer o ysbail gyda hwy. Nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron, oherwydd bod Dafydd wedi gadael iddo fynd mewn heddwch.

23. Pan gyrhaeddodd Joab a'r holl lu oedd gydag ef, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda'r brenin, a'i fod yntau wedi gadael iddo fynd mewn heddwch.

24. Aeth Joab at y brenin a dweud, “Beth wyt ti wedi ei wneud? Fe ddaeth Abner yma atat; pam y gadewaist iddo fynd ymaith?

25. Yr wyt yn adnabod Abner fab Ner; i'th dwyllo di y daeth, ac i gael gwybod dy holl symudiadau a phopeth yr wyt yn ei wneud.”

26. Pan aeth Joab allan oddi wrth Ddafydd, anfonodd negeswyr ar ôl Abner, a daethant ag ef yn ôl o ffynnon Sira heb yn wybod i Ddafydd.

27. Pan ddychwelodd Abner i Hebron, cymerodd Joab ef o'r neilltu yng nghanol y porth, fel pe bai am siarad yn gyfrinachol ag ef. Ond trawodd ef yn ei fol o achos gwaed ei frawd Asahel, a bu farw yno.

28. Wedi i'r peth ddigwydd y clywodd Dafydd, a dywedodd, “Dieuog wyf fi a'm teyrnas am byth gerbron yr ARGLWYDD ynglŷn â gwaed Abner fab Ner;

29. bydded ei waed ar Joab a'i holl deulu! Na fydded teulu Joab heb aelod diferllyd, neu wahanglwyfus, neu ar ei faglau, neu glwyfedig gan gleddyf, neu brin o fwyd!”

30. Yr oedd Joab a'i frawd Abisai wedi llofruddio Abner oherwydd iddo ef ladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.

31. Dywedodd Dafydd wrth Joab a'r holl bobl oedd gydag ef, “Rhwygwch eich dillad a gwisgwch sachliain a gwnewch alar o flaen Abner.” Cerddodd y Brenin Dafydd ar ôl yr elor,

32. a chladdwyd Abner yn Hebron. Wylodd y brenin yn uchel uwchben bedd Abner ac yr oedd yr holl bobl yn wylo hefyd.

33. Yna canodd y brenin yr alarnad hon am Abner:

34. “A oedd raid i Abner farw fel ynfytyn?Nid oedd dy ddwylo wedi eu rhwymo,na'th draed ynghlwm mewn cyffion.Syrthiaist fel un yn syrthio o flaen rhai twyllodrus.”Ac yr oedd yr holl bobl yn parhau i wylo drosto.

35. Daeth y bobl i gyd i gymell Dafydd i fwyta tra oedd yn olau dydd; ond aeth Dafydd ar ei lw, “Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os cyffyrddaf â bara neu ddim oll cyn machlud haul.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 3