Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 3:10-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. a thynnu'r frenhiniaeth oddi ar deulu Saul a sefydlu Dafydd ar orsedd Israel a Jwda, o Dan hyd Beerseba.”

11. Ni fedrai Isboseth yngan yr un gair wrth Abner wedi hyn, oherwydd bod arno ei ofn.

12. Anfonodd Abner negeswyr ar ei ran at Ddafydd i ddweud, “Pwy biau'r wlad? Gwna di gyfamod â mi, ac yna bydd fy llaw o'th blaid i droi Israel gyfan atat.”

13. Atebodd yntau, “Ardderchog! Fe wnaf fi gyfamod â thi; ond yr wyf am hawlio un peth gennyt: ni chei weld fy wyneb, heb iti ddod â Michal ferch Saul gyda thi, pan ddoi i'm gweld.”

14. Yna anfonodd Dafydd negeswyr at Isboseth fab Saul, a dweud, “Rho imi fy ngwraig Michal, a ddyweddïais imi am gant o flaengrwyn Philistiaid.”

15. Anfonodd Isboseth a'i chymryd oddi wrth ei gŵr Paltiel fab Lais.

16. Dilynodd ei gŵr yn wylofus ar ei hôl hyd Bahurim, ond wedi i Abner ddweud wrtho, “Dos yn d'ôl”, fe ddychwelodd adref.

17. Anfonodd Abner air at henuriaid Israel a dweud, “Ers tro byd buoch yn ceisio cael Dafydd yn frenin arnoch.

18. Yn awr, gweithredwch; oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dweud am Ddafydd, ‘Trwy law fy ngwas Dafydd y gwaredaf fy mhobl Israel oddi wrth y Philistiaid a'u gelynion i gyd.’ ”

19. Siaradodd Abner hefyd â llwyth Benjamin. Yna aeth Abner i Hebron i ddweud wrth Ddafydd y cwbl yr oedd Israel a llwyth Benjamin wedi cytuno arno.

20. Daeth Abner at Ddafydd i Hebron gydag ugain o ddynion, a gwnaeth Dafydd wledd i Abner a'i ddynion.

21. Yna dywedodd Abner wrth Ddafydd, “Yr wyf am fynd yn awr i gasglu Israel gyfan ynghyd at f'arglwydd frenin, er mwyn iddynt wneud cyfamod â thi; yna byddi'n frenin ar y cyfan yr wyt yn ei chwenychu.” Gadawodd Dafydd i Abner fynd ymaith, ac aeth yntau mewn heddwch.

22. Ar hynny, cyrhaeddodd dilynwyr Dafydd gyda Joab; yr oeddent wedi bod ar gyrch, ac yn dwyn llawer o ysbail gyda hwy. Nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron, oherwydd bod Dafydd wedi gadael iddo fynd mewn heddwch.

23. Pan gyrhaeddodd Joab a'r holl lu oedd gydag ef, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda'r brenin, a'i fod yntau wedi gadael iddo fynd mewn heddwch.

24. Aeth Joab at y brenin a dweud, “Beth wyt ti wedi ei wneud? Fe ddaeth Abner yma atat; pam y gadewaist iddo fynd ymaith?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 3